Amdanom ni Hedyn Cyf
Busnes teuluol sy’n eiddo i ddau frawd Gruffudd a Llywelyn Tudur ynghyd a’u mam Carolyn Tudur yw Hedyn Cyf.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2008 gyda’r bwriad o greu a chynhyrchu deunyddiau ac adnoddau addysgol Cymraeg. Hyd yma rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau darllen ac adnoddau o safon sy’n cael eu defnyddio mewn nifer fawr o Ysgolion Cynradd yng Nghymru.
Ein Cynnyrch
Darllen gyda Sam
Lansiwyd ein cynnyrch cyntaf ‘ Darllen gyda Sam’ yn 2011. Cynllun darllen ffonig yw hwn ar gyfer plant 3 i 6 oed. Mae’r gyfres ddarllen wedi ei graddio yn ofalus er mwyn galluogi plant i ddysgu, datblygu ac ymarfer eu medrau darllen cychwynnol yn systematig. Yn ychwanegol i’r llyfrau stori, mae nifer fawr o adnoddau a deunyddiau ar gyfer cyfoethogi’r dysgu ar gael ar ein gwefan. Erbyn hyn, i gyd-fynd â’r gyfres, mae gennym lyfrynnau sy’n cynnig cyngor ac arweiniad i rieni sy’n helpu eu plant i ddysgu darllen. Mae’r llyfrynnau yn ddwyieithog ac maent yn cynnwys cyfieithiadau o’r storïau ar gyfer rhieni di-gymraeg.
Bellach, mae’r gyfres ‘Dysgu Darllen gyda Sam’ wedi cyrraedd ei thrydydd argraffiad. Mae hi’n hynod o boblogaidd gyda rhieni ac mae defnydd helaeth yn cael ei wneud ohoni mewn nifer fawr o Ysgolion Cynradd Cymru.
Hyd yma, rydym wedi gwerthu dros 65,000 o lyfrau darllen y gyfres hon.
Darllen a Deall gyda Sam
Lansiwyd a chyhoeddwyd ‘Darllen a Deall gyda Sam’ yn 2015. Pecyn yw hwn sy'n cynnwys cyfres o lyfrau a nifer o ddeunyddiau sydd wedi eu creu er mwyn dysgu sgiliau darllen a deall i blant. Mae’r pecyn yn hynod o lwyddianus ac mae cannoedd o ysgolion yng Nghymru yn ei ddefnyddio.
*Nodyn pwysig* - Yn y gorffennol roedd y pecyn hwn ar gael i ddysgu grwpiau mawr o blant mewn ysgolion yn unig. Yn awr, oherwydd y galw, mae set unigol o lyfrau a llawlyfr byr ar gael i’w prynu, ynghyd â nifer o ddeunyddiau ac adnoddau am ddim ar y wefan.
Celf gyda Sam
Creuwyd a lansiwyd Ap i OS ‘Celf gyda Sam’ yn 2014. *Ddim ar gael mwyach*
Teganau Meddal
Mae teganau meddal Sam a Non wedi eu creu ac maent ar gael i’w prynu ar ein gwefan am bris rhesymol.
Cymraeg yn yr Ysgol Gynradd
Welsh in the Primary School
Cyhoeddwyd y llawlyfr yn 2017. Mae’n cynnwys ystyron nifer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg a glywir yn yr ysgol. Pwrpas y llawlyfr yw cynnig cyfle i rieni di-Gymraeg deimlo’n hyderus ac yn rhan o’r gymuned Gymraeg sy’n bodoli o amgylch yr ysgol yn gyffredinol.
Ar y funud, rydym ni fel cwmni, yn gweithio ar nifer o brosiectau. Rydym yn awyddus i barhau i ddarparu deunyddiau ac adnoddau bywiog ac apelgar ar gyfer addysgu plant. Mae gennym ddiddordeb mewn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer rhieni sy’n dymuno cefnogi a helpu eu plant yn eu haddysg ac rydym yn gobeithio y gallwn roi cymorth ac arweiniad i rieni di-gymraeg sy’n rhoi addysg Gymraeg i’w plant.
Dywedwch helo wrth ein Tîm
Gruffudd Tudur
Cyfarwyddwr
Gruff sydd yn gyfrifol am redeg gweithgareddau dyddiol y busnes. Felly, os byddwch yn cysylltu gyda Dysgu gyda Sam mae'n debygol iawn mai gyda Gruff y byddwch yn siarad. Mae Gruff hefyd yn gyfrifol am yr holl waith dylunio a graffeg, am ddatblygu cynnyrch newydd, ac am greu a diweddaru ein apiau a'r wefan.
Carolyn Tudur
Cyfarwyddwr
Mae Carolyn wedi ymddeol o fod yn athrawes Cyfnod Sylfaen. Gyda 30 blynedd o brofiad, hi yw'r un fydd yn rhoi cyngor a chyfeiriad i'n holl eitemau ac adnoddau addysgol. Mae ei barn a’i harweiniad yn amhrisiadwy i ni; mae yn sicrhau ein bod yn darparu'r cynnyrch, adnoddau a’r gwasanaeth gorau posib ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen gyda Sam 2008 - 2011
Menter Môn
Gwerthfawrogwn yn fawr y cyfle, yr arweiniad a'r nawdd yr ydym wedi eu derbyn gan 'Menter Môn'. Mae eu cyfraniad trwy gyfrwng 'Project Bahaus' wedi bod yn arbennig wrth gychwyn ar ein menter.
Martin Japheth
Person allweddol yn y dasg o baratoi cynnyrch cyntaf 'Darllen gyda Sam’ oedd Martin Japheth. Mae ei ddawn gyfrifiadurol wedi ein galluogi i ddatblygu deunydd cyfoes fydd yn apelio. Llawer o ddiolch iddo.
Bocswn
Cwmni sydd wedi cyfrannu'n adeiladol iawn i'n menter yw 'Bocswn'. Diolch iddynt am y gwasanaeth graenus a gawsom yn eu stiwdio sain yn Sir Fôn.
Merfyn Pierce Jones
Diolchwn am gyfraniad gwerthfawr y sgriptiwr a'r actor Merfyn Pierce Jones. Ef yw'r storїwr ar y CD-Rom rhyngweithiol ac mae ei lais wedi ychwanegu llawer at y llyfrau ac wedi bod yn fodd i fywiogi’r cymeriadau.