top of page

Hafan > Darllen a Deall gyda Sam

Darllen a Deall gyda Sam 

75 Llyfr a Ffolder Adnoddau 

£150.00

Cludiant DU am Ddim ar Archebion Dros £30!
Cludiant Safonol am Dim Ond £3.95

Disgrifiad

Bwriad ‘Darllen a Deall gyda Sam’ yw dysgu plant ifanc sut i ddarllen a chodi gwybodaeth o destunau cyfres o 15 o storïau syml. Darparwyd y gyfres, yn benodol, ar gyfer plant Blwyddyn 2 a rhai plant ym Mlwyddyn 3.

Prif nodweddion y gyfres yw fod

  • cwestiynau parod wedi eu llunio ar gyfer pob stori a’r cyfan yn debyg i’r rhai a geir yn y Profion Darllen Cenedlaethol

  • cynnwys y storïau wedi eu graddio’n fanwl

  • yr eirfa wedi ei dewis yn ofalus er mwyn galluogi plant i ddefnyddio strategaethau darllen yn effeithiol

  • nifer y geiriau a’r cwestiynau sydd ym mhob stori yn cynyddu fel mae’r gyfres yn mynd yn ei blaen

Trwy ddefnyddio'r gyfres hon byddwch yn helpu i feithrin a gwella sgiliau darllen a deall plant.

Yn ychwanegol i’r llyfrau mae adnoddau gwerthfawr, canllawiau a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r gyfres a'r pecyn cyfan, ar gael mewn ffolder, ac yn ddigidol ar ein gwefan.

Llyfrau'r Pecyn (5 copi o bob llyfr)

Dechrau y llyfrau.png

Dechrau'r Llyfrau

Ar ddechrau pob stori mae adran sy’n rhoi cyfle i’r plant ymarfer strategaethau darllen. Mae cyfle i ddysgu darllen a deall ystyr geiriau hir ac anodd, cyn iddynt ddod ar eu traws yn y testun.

Y Storïau 

Mae’r storïau wedi eu rhannu yn dair rhan er mwyn galluogi’r plant i ganolbwyntio ar y manylion sydd yn y testun. Mae cyfle i'r plant ymateb i'r hyn a ddarllenwyd yn bwyllog o fewn sesiynau darllen dyddiol.

Darllen-a-Deall-gyda-SamY-Storiau.png

Diwedd y Llyfrau

Ar ddiwedd pob stori mae adran fechan sy’n rhoi cyfle i’r plant drafod a meithrin eu sgiliau llafar. Gallwch ymarfer defnyddio patrymau brawddegol syml a rhoi cyfle i'r plant gysylltu eu profiadau personol â’r digwyddiadau yn y storïau.

Diwedd y llyfrau.png
Ffolder Adnoddau.png
Canllawiau.jpg

Y Ffolder Adnoddau

Mae adnoddau ychwanegol i atgyfnerthu’r dysgu y tu mewn i’r pecyn hwn. Hefyd, gallwch lawrlwytho adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gyfres oddi ar ein gwefan.

Adnoddau_2.jpg

Cyngor a Chanllawiau

Cyfarwyddiadau sy'n rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio'r gyfres ddarllen â'r adnoddau sydd yn cyd-fynd â hi.

Cardiau Fflach

Mae'r cardiau fflach hyn yn galluogi i'r plant ymarfer nifer o strategaethau a dulliau darllen cychwynnol.

Papurau Asesu

Dyma gwestiynau ychwanegol ar destunau’r storïau. Gall y plant roi tro ar eu hateb yn annibynnol.

Cwblhau Brawddegau

Casgliad o frawddegau sydd angen eu cwblhau. Gall y plant ddewis un gair o bedwar cynnig i lenwi'r bwlch.

Gwybodaeth Ychwanegol

ISBN

978-1-908450-19-7

 

Cyhoeddwyr

Hedyn Cyf

Cyhoeddwyr

Hedyn Cyf

 

Iaith

Cymraeg

Darluniau

Darluniau lliw trwy'r gyfres

 

Y Pecyn

473mm x 224mm x 70mm / 5.2Kg

Llyfrau

145mm x210mm(A5) / 12 Tualen

 

Y Pecyn

300mm x 215mm x 20mm / 192 Tudalen

Cynnyrch Cysylltiedig

Artboard 1 copy 12.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 1

£14.99

Artboard 1 copy 9.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 2

£14.99

Artboard 1 copy 6.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 3

£14.99

Tedi Sam.png

Tegan Meddal
Sam

£4.95

bottom of page