Hafan > Dysgu Darllen gyda Sam > Llyfrau Diffygiol Pecyn 1
Llyfrau Diffygiol Pecyn 1
Llyfrau 1 i 5 a Chanllaw i Rieni 1
£7.50
Cludiant DU am Ddim ar Archebion Dros £30!
Cludiant Safonol am Dim Ond £3.95
Disgrifiad
Ydych chi'n chwilio am fargen? Dyma'ch cyfle! Oherwydd gwall argraffu, mae marciau inc ar tua 3 o bob 40 tudalen o fewn y llyfrau hyn, er hynny mae dros 90% ohonynt mewn cyflwr perffaith.
Rydym wedi gwirio pob llyfr yn ofalus i sicrhau ei fod yn addas i’w ddarllen, yn enwedig gan ddarllenwyr ifanc. Mae'r llyfrau hyn yn parhau i fod yn adnodd effeithiol a gwerthfawr ar gyfer datblygu medrau darllen. Edrychwch ar y lluniau yn yr oriel lluniau uchod am enghreifftiau o'r marciau.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein cynnyrch, hyd yn oed y rhai â mân ddiffygion. Os nad ydych yn llwyr fodlon â'ch pryniant, gallwch ei ddychwelyd o fewn 30 diwrnod am ad-daliad llawn.
Pwyntiau Allweddol
-
Llyfrau newydd sbon am hanner pris
-
Marciau inc oherwydd gwall argraffu
-
Dros 90% o'r llyfrau mewn cyflwr perffaith.
-
Gwiriwyd pob llyfr i sicrhau ansawdd.
-
Nid yw'r profiad darllen wedi ei effeithio.
-
Gwarant ad-daliad llawn o fewn 30 diwrnod.
-
Nid yw'r set yn cynnwys llawes pecynnu.
Cynnwys y Pecyn
Y Llyfrau Darllen
Ar ddiwedd pob llyfr mae tudalen sydd yn cynnwys yr eirfa yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall hyn fod yn fuddiol i unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth i ddeall y testun.
Mae'r ffont sy’n cael ei ddefnyddio yn ein llyfrau wedi ei ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn eglur ac yn addas ar gyfer plentyn bach sy’n dysgu darllen.
Mae’r lluniau yn lliwgar, yn chwareus ac yn syml ac mae pwrpas penodol iddynt. Gall plentyn eu cysylltu â'r geiriau a'r brawddegau sydd ar y dudalen i'w helpu i wneud synnwyr ohonynt.
Ar dudalen ôl y llyfrau mae tystysgrif i’w dorri allan a’i roi i’r darllenwr. Bydd hyn yn rhoi teimlad o lwyddiant i’r plentyn ac yn ei annog i ddal ati.
Rhieni di-gymraeg
Gall helpu eich plentyn i ddarllen iaith nad ydych chi'n gyfarwydd â hi fod yn anodd, ond nid yw'n amhosib. Mae ymwneud rhiant â'r plentyn yn rhan bwysig o'i lwyddiant.
Mae'r adran hon wedi'i ysgrifennu yn Saesneg yn unig ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gamau syml y gall rhiant di-gymraeg eu cymryd i gefnogi a datblygu sgiliau darllen Cymraeg plentyn. Mae’r wybodaeth a’r awgrymiadau yn cynnwys, cyngor ar sut i gyflwyno plentyn i'r Gymraeg, sut i ynganu synau llythrennau a disgrifiad o’r dulliau i’w defnyddio wrth ddarllen.
Cyfieithiadau
Pwrpas yr adran hon yw cynnig cyfle i rieni di-gymraeg ddeall yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn ein llyfrau Dysgu Darllen gyda Sam.
Mae’r cyfieithiadau Saesneg yn eu galluogi i ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddarllen, ac yn eu galluogi i annog y plentyn i ddyfalbarhau a llwyddo.
Oriel luniau
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyhoeddwyr
Hedyn Cyf
Awdur
Carolyn Tudur
Fformat
Clawr meddal
Llyfrau
140mm x 125mm / 40 Tualen